Logo TTC
Car gyrru heibio arwydd araf

Gyrru Diogel ac Ystyriol (SCD)

Cartref >Cwrs dan gyfeiriad yr Heddlu > cyrsiau NDORS > Gyrru Diogel ac Ystyriol (SCD)

Fel na fydd byth yn digwydd y tro nesaf

Fe'i cynigir fel dewis arall yn lle cosb i yrwyr a beicwyr y mae'r heddlu'n teimlo y gellir eu cymell i wneud penderfyniadau gyrru gwell ac osgoi camgymeriadau mwy difrifol yn y dyfodol trwy gyngor ac addysg.

Yn wahanol i'n cyrsiau NDORS eraill, mae'r cwrs SCD yn cynnwys elfen o hyfforddiant ymarferol, mewn cerbydau yn ogystal â theori. Ond mae'r cyfan yn cael ei gyflwyno i'r un safon ddiddorol ac addysgiadol gan hyfforddwyr arbenigol a gwybodus TTC.

Mae'r cwrs SCD yn rhan o'r Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru (NDORS) sydd wedi'i drwyddedu gan UKROEd. Mae'n gwrs newid ymddygiad ar gyfer pobl sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad, a hwnnw'n codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o achosion a chanlyniadau negyddol o yrru'n beryglus ac yn anystyriol.

Lleoliad: Cyfunol ar-lein (theori) ac yn bersonol (hyfforddi)

Hyd: 7.5 awr, gan gynnwys gweithdy theori (3 awr) a hyfforddiant ar y ffordd mewn cerbyd (3.5 awr)

Bydd car yn cael ei ddarparu ar gyfer yr hyfforddiant

Opsiynau talu hyblyg ar gael

Cyrsiau penwythnos ar gael

src="data:image/svg+xml,%3Csvg%20xmlns='http://www.w3.org/2000/svg'%20width='1934'%20height='843'%20viewBox='0%200%201934%20843'%3E%3C/svg%3E"

Sut bydd gyrwyr yn elwa

Eicon diogelwch

Dod yn yrrwr mwy diogel a gwybodus

eicon trwydded

NID yw presenoldeb yn euogfarn

eicon llys

Ni fydd angen i chi fynd i'r llys

Eicon lleol

Lleoliadau lleol ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban

Darparwr cyrsiau diogelwch ffyrdd ar-lein mwyaf y DU
Car gyrru heibio arwydd cyflymder

Peidiwch â chymryd ein gair ni amdano yn unig

Darllenwch beth oedd gyrwyr eraill yn ei feddwl am fynychu un o'n cyrsiau SCD.

Gwybodaeth am gyrsiau

Mae'r cwrs hwn ond ar gyfer pobl sydd wedi cael eu cyfeirio gan yr heddlu i fynychu cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol. Cynigir hyn dim ond i yrwyr ceir nad ydynt wedi dilyn cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol, Cwrs Beth sy'n ein gyrru ni? Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Risg Beiciwr  yn y tair blynedd cyn eu trosedd fwyaf diweddar.

A allaf newid fy nghwrs?

Ar yr amod bod digon o amser o fewn y dyddiad cwblhau a roddwyd gan yr heddlu, gallwch newid eich cwrs ar ôl i chi archebu. Efallai y bydd ffi aildrefnu ar gyfer newid eich cwrs, a honno'n cael ei hamlinelli yn nhelerau ac amodau'r cwrs. Newidiwch eich cwrs gan ddefnyddio'r un porth UKROEd a ddefynddiwyd gennych wrth archebu eich cwrs gwreiddiol.

Fformat y cwrs

Mae'r cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol yn gwrs diwrnod llawn wyneb yn wyneb gyda hyfforddiant ar y ffordd wedi'i gynnwys. Nid oes cyfranogiad gan yr heddlu, ac nid oes angen i chi ddod â'ch cerbyd eich hun gan y bydd car wedi'i yswirio'n llawn yn cael ei ddarparu. Ar wahân i wiriad golwg cyn yr hyfforddiant ar y ffordd, nid oes prawf y gallwch ei basio neu fethu. Rydym ond yn gofyn i chi ymgysylltu'n llawn â chynnwys y cwrs ac aros tan y diwedd.

Adnabod ffotograffig gwreiddiol

Mae'n rhaid i chi ddangos eich trwydded yrru cerdyn-llun ddilys er mwyn mynychu'r cwrs. Os oes gennych y drwydded bapur hen arddull yna bydd angen i chi ddangos hon, ynghyd â math arall o adnabod â llun . Os na allwch ddangos eich trwydded yrru ddilys, bydd angen i chi ddod ag adnabod â llun, ffôn symudol a'ch rhif yswiriant gwladol fel y gall yr hyfforddwr gwblhau gwiriad cymhwysedd.
Edrychwch ar y telerau ac amodau ar ein tudalen adnoddau am fwy o fanylion.

Dod â dehonglydd

Mae'r cwrs ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unig. Os ydych yn credu y gallai eich sgiliau iaith Saesneg gyfyngu ar eich gallu i gwblhau'r cwrs, neu effeithio ar eich profiad, rydym yn argymell eich bod yn gwneud trefniadau i gyfieithydd eich helpu. Er mai eich cyfrifoldeb chi yw gwneud hyn, bydd angen i ni wybod pwy yw'r person hwn gan y bydd angen iddynt hefyd ddarparu adnabod. Rhaid iddynt fod yn 16 oed o leiaf. Edrychwch ar ein tudalen cyngor i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Darllenwch fwy am y cwrs hwn

A allaf fethu'r cwrs gyrru diogel ac ystyriol?

Cyn belled â'ch bod yn cwblhau'r cwrs yn foddhaol, ni allwch fethu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wnued y canlynol:

  • Mynychu'r cyfarfod llawn.
  • Dangos parodrwydd i fagu agwedd fwy cadarnhaol tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd.
  • Gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r cwrs.

Os na fyddwch yn fodloni'r holl ofynion hyn, ystyrir nad ydych wedi cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol a gellir cyfeirio'ch achos yn ôl at yr heddlu.

Pa mor hir yw cwrs gyrru diogel ac ystyriol?

Mae'r cwrs yn cynnwys sesiwn theori tair awr a gynhelir mewn ystafell ddosbarth gan hyfforddwr NDORS trwyddedig ac yna sesiwn hyfforddi ymarferol ar y ffordd o 3.5 awr gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy.

Mae'r holl gyfarfodydd yn dechrau'n gyflym. Mae angen i chi fod wedi'ch setlo ac yn barod i ddechrau ar yr amser a nodir ar eich cyfarwyddiadau ymuno. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio eich taith i'r lleoliad gan na chaniateir mynediad os ydych yn rhy hwyr.

Sut i archebu cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol

Mae archebu yn hawdd. Yn syml, cliciwch ar y botwm 'Archebwch nawr' lle bynnag y bo ar y dudalen hon, a bydd yn mynd â chi i wefan UKROEd lle gallwch deipio'r cyfeirnod a'r rhif PIN o'ch llythyr atgyfeiriad yr heddlu ac, os gofynnir i chi, dewiswch TTC fel eich darparwr.

Byddwch yn gallu pori dyddiadau, amseroedd a lleoliadau sydd ar gael.

Peidiwch ag anghofio dweud wrthym os ydych chi'n meddwl y bydd raid gofynion arbennig ar y diwrnod.

Unwaith y byddwch wedi archebu a thalu, byddwch yn cael e-bost cadarnhau gennym gyda'r holl fanylion sydd eu hangen arnoch ynglŷn ag ymuno â'ch cwrs.

Opsiynau talu

Rydym yn cynnig ystod o opsiynau i dalu am y cwrs i gwrdd orau â'ch anghenion gan gynnwys taliadau wedi'u hamserlenni. Rydym yn derbyn taliadau gan bob cerdyn debyd a chredyd mawr, sieciau, archebion post, drafftiau banciwr, arian parod, trosglwyddiad BACS ac apiau bancio symudol.

Cyrraedd eich cwrs

Mae'n hanfodol bod yn eich cwrs yn brydlon fel bod gan yr hyfforddwr amser i gyflwyno ei hun, gwirio eich adnabod a chofrestru'ch presenoldeb.

Gwiriad golwg

Bydd angen i chi ddarllen plât rhif o bellter o 20.5m (67 troedfedd) cyn i'r ffordd ymarferol gael ei wneud. Os byddwch yn methu'r prawf golwg, bydd hyn yn arwain at beidio â chwblhau'r cwrs a bydd angen i chi aildrefnu os oes digon o amser o fewn y dyddiad cau a bennwyd gan yr heddlu. Bydd hyn yn amodol ar ffi aildrefnu yn unol â'n telerau ac amodau. Os na allwch aildrefnu eich cwrs, bydd eich ffeil yn cael ei throsglwyddo yn ôl i'r heddlu a'ch cyfeiriodd i'w hystyried.

Hyfforddiant ar y ffordd

Mae ail hanner y dydd yn sesiwn ymarferol mewn car gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy ac un mynychwr arall. Hwn fydd cerbyd eich hyfforddwr, felly mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni os oes angen car gyda gerau â llaw neu awtomatig arnoch wrth archebu. Os ydych am ddefnyddio eich cerbyd wedi'i addasu'n arbennig am unrhyw reswm, rhaid i chi wneud TTC yn ymwybodol o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad eich cwrs oherwydd bydd angen iddo gael asesiad risg.

Lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd

Rydym yn cynnig dewis cynhwysfawr o ddyddiadau, lleoliadau ac amseroedd cychwyn, gan gynnwys penwythnosau. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i chi gwblhau eich cwrs o fewn y terfyn dyddiad a bennwyd gan eich heddlu sy'n cyfeirio.

Ardaloedd a gwmpesir

Mae TTC yn darparu cyrsiau SCD yn yr ardaloedd heddlu canlynol: Avon & Somerset, Cumbria, Dyfnaint a Chernyw, Gwent, Gogledd Cymru, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Northampton, Yr Alban, De Cymru, De Swydd Efrog, Gorllewin Mercia, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gorllewin Swydd Efrog a Wiltshire.

Addasiadau ar gyfer pobl gydag anghenion ychwanegol

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion arbennig sydd gennych, ar yr amod eich bod yn dweud wrthym ymlaen llaw. Os ydych eisoes wedi archebu ac nad ydych wedi rhoi gwybod i ni eto am unrhyw ofynion arbennig sydd gennych, cysylltwch â ni.

Telerau ac Amodau

Cliciwch yma i lawrlwytho a darllen ein telerau ac amodau cyflawn ar gyfer y cwrs hwn.

Unrhyw gwestiwn arall?

Mae gennym nifer fawr o atebion i'ch cwestiynau. Edrychwch ar ein tudalen arbennig ar gyfer Cwestiynau Cyffredin ac adnoddau eraill.

src="data:image/svg+xml,%3Csvg%20xmlns='http://www.w3.org/2000/svg'%20width='1037'%20height='691'%20viewBox='0%200%201037%20691'%3E%3C/svg%3E"
Canolfan Alwadau

Angen help i archebu eich cwrs SCD? Gall ein hasiantau cyfeillgar roi help llaw i chi.