Gyrru Diogel ac Ystyriol
Newidiwch y cwrs rydych wedi archebu lle arnoMae’r cwrs Gyrru Diogel ac ystyriol(SCD) wedi’i anelu at yrwyr hynny sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad heb ganlyniadau difrifol, lle mae eu gyrru wedi golygu diffyg canolbwyntio neu gamgymeriad barn.
Mae TTC wedi ymrwymo i gynnig amrywiet o fynediad i’n holl gleientiaid. Gellir archebu Gyrru Diogel ac Ystyriol (SCD) naill ai fel cwrs diwrnod llawn (gweithdy theory hanner diwrnod, wedi’i ddilyn gan sesiwn hyfforddi ymarferol yn y cerbyd) neu ei rannu’n ddwy ran, pob rhan wedi’i chwblhau o fewn cyfnod o 14 diwrnod. Cynhelir rhan un yn ddigidol ar-lein trwy “zoom”, a bydd rhan dau yn sesiwn ymarferol yn y cerbyd, a gyflwynir gan hyfforddwr SCD. Cysylltwch â ni i drafod argaeledd.
- Gweithdu theory rhan un SCD - 3 awr o hyd
- Hyfforddiant ymarferol yn y cerbyd rhan dau SCD 3.5 awr o hyd
- Cwrs diwrnod llawn SCD (theori a hyfforddiant mewn cerbyd) - 7 awr (gan gynnwys egwyl)
- Mae’r pris yn dibynnu ar ardal yr heddlu
- Gweithdy rhyngweithiol a deniadol
- Rydym yn cyflwyno’r cwrs yn Avon a Gwlad yr Haf, Cumbria, Dyfnaint a Chernyw, Gwent, Gogledd Cymru, Gogledd Swydd Efrog, Sir Northampton, Yr Alban, De Cymru, De Swydd Efrog, Gorllewin Mersia, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Gorllewin Swydd Efrog, Wiltshire.
Rhesymau i fynychu
Eich ysgogi i newid eich ymddygiad gyrru ac, yn y pen draw, dod yn yrrwr mwy diogel.
Unwaith y bydd y cwrs wedi'i gwblhau, bydd TTC yn diweddaru cronfa ddata'r heddlu ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.
Nid yw presenoldeb ar gwrs NDORS yn euogfarn.
Mae lleoliadau lleol ar gael ledled Cymru a Lloegr.
Roedd y cwrs yn ddefnyddiol iawn. Mantais fawr ohono oedd mynd allan gyda hyfforddwr oedd yn cywiro fy arferion drwg. Rwy’n falch fy mod wedi cael cyfle i wneud y cwrs hwn, mae wedi gwella fy ngyrru.
Manteision i’r cyfranogwyr
Deall achosion a chanlyniadau gyrru peryglus ar gyfer pob defnyddiwr ffordd.
Adnabod pwysigrwydd canolbwyntio, arsylwi, rhagweld a chaniatáu lle ac amser digonol.
Gwella ymddygiad gyrru a sgiliau trwy hyfforddiant ymarferol, personol ar y ffordd.
Cynyddu ymwybyddiaeth o beth yw gyrru diogel ac ystyriol a’r ffyrdd y mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn cefnogi hyn.
Manylion y cwrs
- Pwy ddylai fynychu
-
Unrhyw un y mae’r heddlu wedi’u cyfeirio i fynychu Cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol.
- Dull darparu
-
Mae’r gweithdy rhyngweithiol yn hamddenol ac yn llawn gwybodaeth a chaiff ei hwyluso gan hyfforddwr NDORS trwyddedig (Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru) trwyddedig. Nid oes gan yr heddlu ran yn y broses.
- Gofynion y cwrs
-
Cyrraedd yn gynnar
Ni chaniateir i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr ddod i mewn ac efallai y bydd eu hachosion yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r heddlu.Prawf adnabod dilys
Rhaid i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig er mwyn mynychu'r cwrs. Rhaid i hwn fod yn ddogfen gorfforol; ni dderbynnir copïau digidol. Bydd methu â dangos prawf adnabod ffotograffig yn arwain at eich gwaharddiad o’r cwrs. Gwneir pob ymdrech i gynnig dyddiad arall, ar yr amod bod digon o amser ac argaeledd o fewn dyddiad cwblhau'r heddlu. Bydd angen ffi aildrefnu arall. Os nad oes gennych brawf adnabod ffotograffig, bydd angen i chi siarad â'r Heddlu a'ch cyfeiriodd ar gyfer y cwrs, a hynny cyn dyddiad eich cwrs.Gwiriad golwg
Bydd angen i chi ddarllen plât rhif o bellter 20.5 m (67tr) cyn y sesiwn ymarferol ar y ffordd. Os byddwch chi'n methu'r prawf golwg hwn, ni fyddwch chi’n cwblhau’r cwrs a bydd yn rhaid i chi naill ai dalu ffi lawn y cwrs i ail-drefnu lle ar gwrs arall neu bydd eich achos yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r heddlu.Hyfforddiant ar y ffordd
Sesiwn ymarferol yw ail hanner y diwrnod yn y car gyda Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy ac un client arall. Nid oes yn rhaid i chi ddod â'ch cerbyd oherwydd bydd car wedi'i yswirio'n llawn yn cael ei ddarparu. Mae angen i chi roi gwybod i ni os byddwch chi'n gyrru car awtomatig neu os oes gennych chi anabledd sy'n effeithio ar eich gyrru er mwyn gallu gwneud addasiadau priodol.Cymhwysedd
Ni ddylech fod wedi cymryd Cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol, Beth Sy’n Ein Gyrru Ni? neu RIDE yn y 3 blynedd cyn y drosedd ddiweddaraf.
- Ffi yn cael ei chodi i newid eich cwrs
-
Cyn belled â bod digon o amser o fewn y terfyn amser a roddir gan yr heddlu, gallwch newid eich cwrs unwaith y byddwch wedi archebu lle. Mae’n bosibl y bydd ffi aildrefnu ar gyfer newid eich cwrs, fel yr eglurir yn nhelerau ac amodau ein cyrsiau.
Os na fyddwch yn gallu mynychu neu gwblhau eich cwrs oherwydd salwch, codir ffi aildrefnu. Gellir ad-dalu hon ar ôl i ni dderbyn tystysgrif feddygol a’i hadolygu.
Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych
- Ydw i’n gallu mynychu’r cwrs heb ID dilys?
-
Os byddwch chi'n methu â chyrraedd â phrawf hunaniaeth dilys, ni fyddwch chi'n cael mynychu'r cwrs a chyn belled â bod gennych chi ddigon o amser cyn eich dyddiad cwblhau, bydd gofyn i chi ail-drefnu'r cwrs a fydd yn golygu ffi ail-drefnu.
- Beth os byddaf yn hwyr neu’n methu â mynychu?
-
Efallai y bydd modd i chi ail-archebu lle, cyn belled â bod digon o amser yn yr amserlen gan yr heddlu, a fydd yn golygu ffi ad-drefnu.
Os byddwch yn sâl, bydd angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Bydd gofyn i chi ddarparu tystysgrif meddyg.
- Ydw i'n gallu methu'r cwrs?
-
Os byddwch chi'n cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol, ni allwch chi fethu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:
- Fynychu’r sesiwn lawn.
– Arddangos parodrwydd i gael ymagwedd fwy cadarnhaol tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd.
- Gwneud cyfraniad positif at y cwrs.
Os na fyddwch chi'n llwyddo i fodloni'r holl ofynion hyn, ystyrir na fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol a bydd eich achos yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r heddlu.
- Ydw i’n gallu mynychu'r cwrs yn wirfoddol?
-
Nac ydych, byddwch chi'n gallu mynychu’r cwrs os byddwch chi wedi derbyn y cynnig oddi wrth yr heddlu yn dilyn trosedd traffig honedig yn unig.
Fodd bynnag, gallwn gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau hyfforddiant i yrwyr. Ewch i 'addysg a hyfforddiant gyrwyr' i gael mwy o wybodaeth.
- Ydw i angen mewngofnodi?
-
Ar ôl cyrraedd, dylech ddod o hyd i’r hyfforddwr er mwyn cofrestru. Bydd yr hyfforddwr yn gwirio’ch hunaniaeth ac yn nodi’ch presenoldeb cyn i’r cwrs ddechrau.
- Ai'r heddlu sy'n rhedeg y cwrs?
-
Nid yw'r heddlu'r gysylltiedig â darparu'r cwrs, byddant yn cael gwybodaeth unwaith y byddwch wedi mynychu a chwblhau'r cwrs i sicrhau na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd yn eich erbyn ar gyfer y digwyddiad hwn.
- Beth os bydd y cwrs yn cael ei ganslo?
-
Os bydd eich cwrs yn cael ei ganslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i'n rheolaeth, byddwn ni'n ei ail-drefnu cyn gynted â phosibl, am ddim.
Byddwn yn anfon neges e-bost neu’n ysgrifennu at gleientiaid yn rhoi gwybod am yr ad-drefnu.
- Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud ar ôl y cwrs?
-
Dim byd. Unwaith y byddwch chi wedi mynychu a chwblhau'r cwrs bydd TTC yn diweddaru’r system i nodi eich bod mynychu a chwblhau'r cwrs. Byddant hefyd yn diweddaru cronfa ddata genedlaethol yr heddlu ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.
- A fyddwch chi'n darparu bwyd?
-
Na fyddwn. Bydd yn rhaid i chi ddod â’ch cinio eich hun os dymunwch fwyta yn ystod yr egwyl.
- Alla i wneud y cwrs mewn iaith arall?
-
Darperir cyrsiau yn Saesneg. Yng Ngwent, Gogledd a De Cymru, mae rhai cyrsiau ar gael yn Gymraeg hefyd. Os nad yw'ch dealltwriaeth o Gymraeg/Saesneg yn ddigon da i allu deall a chymryd rhan yn y cwrs, gallwch chi ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi i fod yn gyfieithydd yn ddi-dâl. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni y byddwch chi'n dod â rhywun efo chi i gyfieithu.
Os ydych wedi rhoi gwybod i ni eich bod yn dod â chyfieithydd gyda chi, mae’n rhaid i’r unigolyn hwnnw/honno gael ei (h)enwi ar yr archeb. Mae’n rhaid iddo/iddi ddod ag ID llun a bod yn 16 oed neu’n hŷn.
Os byddwch chi'n cyrraedd y cwrs heb gyfieithydd a bydd yr hyfforddwr yn teimlo nad ydych yn gallu ei (d)deall ef/hi a chynnwys y cwrs yn ddigonol, yna ni fyddwch yn gallu cwblhau’r cwrs. Mae hyn oherwydd ei bod yn bwysig bod pob cyfranogwr yn gallu deall yr hyfforddwr a chynnwys y cwrs er mwyn ennill y wybodaeth a phrofiad arfaethedig o'r sesiwn.
- A oes dolen clyw ar gael?
-
Mae gan rhai o'r lleoliadau cwrs ddolennau clyw, neu maent yn gallu darparu dolennau clyw, ond nid yw rhai ohonynt yn cynnig y cyfleuster hwnnw. Os oes angen dolen clyw arnoch, cysylltwch â ni a byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu ar gyfer yr angen hwn.
- A fydd angen darllen neu ysgrifennu unrhyw beth?
-
Byddwch chi'n cael llawlyfr cwrs sydd â lle ynddo i wneud nodiadau ond mae hwn i'ch cofnodion yn unig, ni fydd yn cael ei roi i mewn ar ddiwedd y cwrs.
A yw'r heddlu wedi'ch cyfeirio?
Mwy na 220 o leoliadau cwrs ar gael ledled y wlad