Cwrs Beth Sy'n Ein Gyrru Ni?

Newidiwch y cwrs rydych wedi archebu lle arno

Mae’r cwrs Beth Sy'n Ein Gyrru Ni? (WDU) yn rhoi cipolwg ar ymddygiad gyrwyr a phwysigrwydd gyrru yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Cynigir y cwrs i yrwyr/reidwyr fel dewis amgen i erlyniad am drosedd gyrru heb ofal a sylw dyledus. Gallai hynny fod yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau traffig, esgeuluso hawliau cerddwyr, peidio â bod mewn rheolaeth briodol ar y cerbyd a defnyddio ffôn symudol wrth yrru neu oruchwylio gyrrwr sy’n ddysgwr (ni chaiff y cwrs ei gynnig ym mhob ardal ar gyfer cleientiaid sy’n defnyddio ffôn symudol wrth yrru – dyma ddisgresiwn yr heddlu).

Trwy gyflwyniadau a thrafodaethau, byddwch yn meithrin dealltwriaeth o achosion ymddygiad gyrwyr ac yn datblygu ymagwedd fwy cyfrifol at yrru.

  • 4 awr
  • Hyd at 24 o gyfranogwyr
  • Pris yn dibynnu ar ardal heddlu
  • Gweithdy rhyngweithiol yn yr ystafell ddosbarth
  • Rydym yn darparu’r cwrs yn Avon a Gwlad yr Haf, Cumbria, Dyfnaint a Chernyw, Gwent, Gogledd Cymru, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Northampton, De Cymru, De Swydd Efrog, Gorllewin Mersia, Gorllewin Canoldir Lloegr, Gorllewin Swydd Efrog, Wiltshire

Rhesymau i fynychu

Ennill gwybodaeth fewnol am y penderfyniadau y mae pobl yn eu gwneud ar y ffordd.

Nid oes angen i chi dalu’r ddirwy ac ni fydd pwyntiau cosb yn cael eu hychwanegu at eich trwydded.

Nid yw presenoldeb ar gwrs NDORS yn euogfarn.

Local venuesMae lleoliadau lleol ar gael ledled Cymru a Lloegr.

Roedd fel eiliad stopio llwyr o ran sut roeddwn i’n gyrru. Roeddwn wedi dechrau cymryd popeth yn ganiataol, nid oeddwn yn canolbwyntio ar y dasg mewn llaw a llwyddodd cwrs hwn i wneud i mi wneud hyn.

Mynychwr cwrs Beth Sy'n Ein Gyrru Ni?

Manteision i’r cyfranogwyr

Driving behavoiurDeall beth sy’n dylanwadu ar eich ymddygiad gyrru.

Adnabod canlyniadau bod yn gysylltiedig â gwrthdrawiad a’r angen am reolau traffig.

Driver steering wheelGoresgyn rhwystrau i yrru diogel a chyfrifol.

Other road usersCael eu hysgogi i yrru yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Manylion y cwrs

Pwy ddylai fynychu

Unrhyw un y mae’r heddlu wedi’u cyfeirio i fynychu Cwrs Beth Sy’n Ein Gyrru Ni?

Dull darparu

Mae’r gweithdy rhyngweithiol yn hamddenol ac yn llawn gwybodaeth a chaiff ei hwyluso gan hyfforddwr NDORS trwyddedig (Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru) trwyddedig. Nid oes gan yr heddlu ran yn y broses.

 

Gofynion y cwrs

Cyrraedd yn gynnar
Ni chaniateir i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr ddod i mewn ac efallai y bydd eu hachosion yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r heddlu.

Prawf adnabod dilys
Rhaid i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig er mwyn mynychu'r cwrs. Rhaid i hwn fod yn ddogfen gorfforol; ni dderbynnir copïau digidol. Bydd methu â dangos prawf adnabod ffotograffig yn arwain at eich gwaharddiad o’r cwrs. Gwneir pob ymdrech i gynnig dyddiad arall, ar yr amod bod digon o amser ac argaeledd o fewn dyddiad cwblhau'r heddlu. Bydd angen ffi aildrefnu arall. Os nad oes gennych brawf adnabod ffotograffig, bydd angen i chi siarad â'r Heddlu a'ch cyfeiriodd ar gyfer y cwrs, a hynny cyn dyddiad eich cwrs.

Dim gyrru/prawf
Mae hwn yn gwrs theori yn unig, yn yr ystafell ddosbarth heb unrhyw yrru na phrawf.

Cymhwysedd
Ni ddylech fod wedi cymryd cwrs Beth Sy’n Ein Gyrru Ni? RIDE neu Gyrru Diogel ac Ystyriol yn y 3 blynedd cyn y drosedd ddiweddaraf.

Ffi yn cael ei chodi i newid eich cwrs

Cyn belled â bod digon o amser o fewn y terfyn amser a roddir gan yr heddlu, gallwch newid eich cwrs unwaith y byddwch wedi archebu lle. Mae’n bosibl y bydd ffi aildrefnu ar gyfer newid eich cwrs, fel yr eglurir yn nhelerau ac amodau ein cyrsiau.

Os na fyddwch yn gallu mynychu neu gwblhau eich cwrs oherwydd salwch, codir ffi aildrefnu. Gellir ad-dalu hon ar ôl i ni dderbyn tystysgrif feddygol a’i hadolygu.

Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych

Ydw i’n gallu mynychu’r cwrs heb ID dilys?

Os byddwch chi'n methu â chyrraedd â phrawf hunaniaeth dilys, ni fyddwch chi'n cael mynychu'r cwrs a chyn belled â bod gennych chi ddigon o amser cyn eich dyddiad cwblhau, bydd gofyn i chi ail-drefnu'r cwrs a fydd yn golygu ffi ail-drefnu.

Beth os byddaf yn hwyr neu’n methu â mynychu?

Efallai y bydd modd i chi ail-archebu lle, cyn belled â bod digon o amser yn yr amserlen gan yr heddlu, a fydd yn golygu ffi ad-drefnu.

Os byddwch yn sâl, bydd angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Bydd gofyn i chi ddarparu tystysgrif meddyg.

Ydw i'n gallu methu'r cwrs?

Os byddwch chi'n cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol, ni allwch chi fethu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:

- Fynychu’r sesiwn lawn.

– Arddangos parodrwydd i gael ymagwedd fwy cadarnhaol tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd.

- Gwneud cyfraniad positif at y cwrs.

Os na fyddwch chi'n llwyddo i fodloni'r holl ofynion hyn, ystyrir na fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol a bydd eich achos yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r heddlu.

Ydw i’n gallu mynychu'r cwrs yn wirfoddol?

Nac ydych, byddwch chi'n gallu mynychu’r cwrs os byddwch chi wedi derbyn y cynnig oddi wrth yr heddlu yn dilyn trosedd traffig honedig yn unig.

Fodd bynnag, gallwn gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau hyfforddiant i yrwyr. Ewch i 'addysg a hyfforddiant gyrwyr' i gael mwy o wybodaeth.

Ydw i angen mewngofnodi?

Ar ôl cyrraedd, dylech ddod o hyd i’r hyfforddwr er mwyn cofrestru. Bydd yr hyfforddwr yn gwirio’ch hunaniaeth ac yn nodi’ch presenoldeb cyn i’r cwrs ddechrau.

Ai'r heddlu sy'n rhedeg y cwrs?

Nid yw'r heddlu'r gysylltiedig â darparu'r cwrs, byddant yn cael gwybodaeth unwaith y byddwch wedi mynychu a chwblhau'r cwrs i sicrhau na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd yn eich erbyn ar gyfer y digwyddiad hwn.

 

Beth os bydd y cwrs yn cael ei ganslo?

Os bydd eich cwrs yn cael ei ganslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i'n rheolaeth, byddwn ni'n ei ail-drefnu cyn gynted â phosibl, am ddim.

Byddwn yn anfon neges e-bost neu’n ysgrifennu at gleientiaid yn rhoi gwybod am yr ad-drefnu.

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud ar ôl y cwrs?

Dim byd. Unwaith y byddwch chi wedi mynychu a chwblhau'r cwrs bydd TTC yn diweddaru’r system i nodi eich bod mynychu a chwblhau'r cwrs. Byddant hefyd yn diweddaru cronfa ddata genedlaethol yr heddlu ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.


A fyddwch chi'n darparu bwyd?

Na fyddwn. Bydd yn rhaid i chi ddod â’ch cinio eich hun os dymunwch fwyta yn ystod yr egwyl.

 

Alla i wneud y cwrs mewn iaith arall?

Darperir cyrsiau yn Saesneg. Yng Ngwent, Gogledd a De Cymru, mae rhai cyrsiau ar gael yn Gymraeg hefyd. Os nad yw'ch dealltwriaeth o Gymraeg/Saesneg yn ddigon da i allu deall a chymryd rhan yn y cwrs, gallwch chi ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi i fod yn gyfieithydd yn ddi-dâl. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni y byddwch chi'n dod â rhywun efo chi i gyfieithu.

Os ydych wedi rhoi gwybod i ni eich bod yn dod â chyfieithydd gyda chi, mae’n rhaid i’r unigolyn hwnnw/honno gael ei (h)enwi ar yr archeb. Mae’n rhaid iddo/iddi ddod ag ID llun a bod yn 16 oed neu’n hŷn.

Os byddwch chi'n cyrraedd y cwrs heb gyfieithydd a bydd yr hyfforddwr yn teimlo nad ydych yn gallu ei (d)deall ef/hi a chynnwys y cwrs yn ddigonol, yna ni fyddwch yn gallu cwblhau’r cwrs. Mae hyn oherwydd ei bod yn bwysig bod pob cyfranogwr yn gallu deall yr hyfforddwr a chynnwys y cwrs er mwyn ennill y wybodaeth a phrofiad arfaethedig o'r sesiwn.

A oes dolen clyw ar gael?

Mae gan rhai o'r lleoliadau cwrs ddolennau clyw, neu maent yn gallu darparu dolennau clyw, ond nid yw rhai ohonynt yn cynnig y cyfleuster hwnnw. Os oes angen dolen clyw arnoch, cysylltwch â ni a byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu ar gyfer yr angen hwn.

 

A fydd angen darllen neu ysgrifennu unrhyw beth?

Byddwch chi'n cael llawlyfr cwrs sydd â lle ynddo i wneud nodiadau ond mae hwn i'ch cofnodion yn unig, ni fydd yn cael ei roi i mewn ar ddiwedd y cwrs.