Cwrs Ymwybyddiaeth Gwregys Diogelwch

Ffoniwch i archebu eich lle ar gwrs

Dyluniwyd y Cwrs Ymwybyddiaeth Gwregys Diogelwch i addysgu ac esbonio pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch. Cynigir y cwrs i yrwyr a theithwyr sydd wedi cael eu dal heb wisgo eu gwregys diogelwch lle nad oes eithriad. Mae’r cwrs yn ddewis amgen i dderbyn dirwy cosb benodedig.

Dim ond yn Nyfnaint a Chernyw y mae’r cwrs hwn ar gael felly ni ellir ei wneud mewn ardaloedd eraill (dim trosglwyddiadau).

  • 1 awr 30 munud
  • Hyd at 12 o gyfranogwyr
  • Pris: £36
  • Gweithdy rhyngweithiol yn yr ystafell ddosbarth
  • Rydym yn darparu’r cwrs yn Nyfnaint a Chernyw.

Rhesymau i fynychu

ThinkingCynyddu eich ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.

Nid oes angen i chi dalu’r ddirwy drom.

Nid yw presenoldeb ar gwrs yn euogfarn.

VenuesMae lleoliadau lleol ar gael yn Nyfnaint a Chernyw.

Roedd y cwrs yn darparu dull cadarnhaol o ddysgu, gan annog cyfranogwyr i ddysgu am eu camgymeriadau yn hytrach na’n beio ni am y camgymeriadau a wnaethom. Roeddwn i’n teimlo bod y cwrs yn werthfawr iawn ar gyfer fy ngyrru yn y dyfodol.

Manteision i’r cyfranogwyr

DrivingDeall beth sy’n dylanwadu ar eich ymddygiad gyrru.

RisksAdnabod canlyniadau peidio â gwisgo gwregys diogelwch.

DrivingGoresgyn rhwystrau i yrru diogel a chyfrifol.

Change attitudeCael eich ysgogi i newid eich ymagwedd tuag at ddefnyddio gwregysau diogelwch.

Manylion y cwrs

Pwy ddylai fynychu

Mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn cynnig rhaglenni addysg i yrwyr sy’n cael eu dal heb wisgo’r gwregysau diogelwch priodol mewn cerbyd. Bydd gyrwyr yn cael gwybod ar adeg y drosedd, gan swyddog yr heddlu, os oes rhaglen addysg gwregys diogelwch ar gael iddynt.

Dull darparu

Mae’r gweithdy rhyngweithiol yn hamddenol ac yn llawn gwybodaeth a chaiff ei hwyluso gan hyfforddwr NDORS trwyddedig (Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru) trwyddedig. Nid oes gan yr heddlu ran yn y broses.

 

Gofynion y cwrs

Cyrraedd yn gynnar
Ni chaniateir i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr ddod i mewn ac efallai y bydd eu hachosion yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r heddlu.

Dull adnabod dilys
Mae’n rhaid i chi ddarparu ID ffotograffig; ni fydd copïau digidol yn ddigonol. Os na allwch ddarparu ID ffotograffig, bydd gofyn i chi ddarparu 3 ffurf o ddull adnabod cerdyn banc, cyfriflen banc a bil gwasanaeth.

Dim gyrru/prawf
Mae hwn yn gwrs theori yn unig, yn yr ystafell ddosbarth heb unrhyw yrru na phrawf.

Cymhwysedd
Ni ddylech fod wedi cymryd cwrs tebyg yn y 3 blynedd cyn y drosedd ddiweddaraf.

Telerau ac amodau
Dyma gipolwg sydyn o ofynion y cwrs. I gael mwy o fanylion, edrychwch ar ein telerau ac amodau.

Ffioedd a godir i newid archeb

Oes, ar yr amod bod digon o amser o fewn yr amserlen mae’r heddlu wedi’i rhoi i chi. Gallwch chi newid amser, dyddiad a lleoliad y cwrs unwaith y byddwch chi wedi archebu lle. Fodd bynnag, codir ffi am newid manylion eich archeb (gwelwch isod) a manylir ar hyn yn ein telerau ac amodau. Os dymunwch newid/canslo dyddiad ac amser eich cwrs cyn pen:

  • Cyn pen 14 diwrnod o'r dyddiad pan wnaethoch chi archebu’ch lle yn wreiddiol, gallwch ail-archebu am ddim.
  • Ar ôl 14 diwrnod a chyn 7 diwrnod o ddyddiad y cwrs, mae yna ffi £10.
  • Cyn pen 7 diwrnod o ddyddiad y cwrs neu os yw’r cleient wedi methu’r cwrs, mae yna ffi ail-drefnu £18.

Os na fyddwch yn gallu mynychu neu gwblhau cwrs oherwydd salwch, bydd angen talu ffi ail-drefnu. Efallai y caiff hon ei had-dalu hyn ar ôl derbyn tystysgrif feddygol ac ar ôl adolygiad gennym ni.

Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych

Ydw i’n gallu mynychu’r cwrs heb ID dilys?

Os byddwch chi'n methu â chyrraedd â phrawf hunaniaeth dilys, ni fyddwch chi'n cael mynychu'r cwrs a chyn belled â bod gennych chi ddigon o amser cyn eich dyddiad cwblhau, bydd gofyn i chi ail-drefnu'r cwrs a fydd yn golygu ffi ail-drefnu.

Beth os byddaf yn hwyr neu’n methu â mynychu?

Efallai y bydd modd i chi ail-archebu lle, cyn belled â bod digon o amser yn yr amserlen gan yr heddlu, a fydd yn golygu ffi ad-drefnu.

Os byddwch yn sâl, bydd angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Bydd gofyn i chi ddarparu tystysgrif meddyg.

Ydw i'n gallu methu'r cwrs?

Os byddwch chi'n cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol, ni allwch chi fethu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:

- Fynychu’r sesiwn lawn.

– Arddangos parodrwydd i gael ymagwedd fwy cadarnhaol tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd.

- Gwneud cyfraniad positif at y cwrs.

Os na fyddwch chi'n llwyddo i fodloni'r holl ofynion hyn, ystyrir na fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol a bydd eich achos yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r heddlu.

Ydw i’n gallu mynychu'r cwrs yn wirfoddol?

Nac ydych, byddwch chi'n gallu mynychu’r cwrs os byddwch chi wedi derbyn y cynnig oddi wrth yr heddlu yn dilyn trosedd traffig honedig yn unig.

Fodd bynnag, gallwn gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau hyfforddiant i yrwyr. Ewch i 'addysg a hyfforddiant gyrwyr' i gael mwy o wybodaeth.

Ydw i angen mewngofnodi?

Ar ôl cyrraedd, dylech ddod o hyd i’r hyfforddwr er mwyn cofrestru. Bydd yr hyfforddwr yn gwirio’ch hunaniaeth ac yn nodi’ch presenoldeb cyn i’r cwrs ddechrau.

Ai'r heddlu sy'n rhedeg y cwrs?

Nid yw'r heddlu'r gysylltiedig â darparu'r cwrs, byddant yn cael gwybodaeth unwaith y byddwch wedi mynychu a chwblhau'r cwrs i sicrhau na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd yn eich erbyn ar gyfer y digwyddiad hwn.

 

Beth os bydd y cwrs yn cael ei ganslo?

Os bydd eich cwrs yn cael ei ganslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i'n rheolaeth, byddwn ni'n ei ail-drefnu cyn gynted â phosibl, am ddim.

Byddwn yn anfon neges e-bost neu’n ysgrifennu at gleientiaid yn rhoi gwybod am yr ad-drefnu.

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud ar ôl y cwrs?

Dim byd. Unwaith y byddwch chi wedi mynychu a chwblhau'r cwrs bydd TTC yn diweddaru’r system i nodi eich bod mynychu a chwblhau'r cwrs. Byddant hefyd yn diweddaru cronfa ddata genedlaethol yr heddlu ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.


A fyddwch chi'n darparu bwyd?

Na fyddwn. Bydd yn rhaid i chi ddod â’ch cinio eich hun os dymunwch fwyta yn ystod yr egwyl.

 

Alla i wneud y cwrs mewn iaith arall?

Darperir cyrsiau yn Saesneg. Yng Ngwent, Gogledd a De Cymru, mae rhai cyrsiau ar gael yn Gymraeg hefyd. Os nad yw'ch dealltwriaeth o Gymraeg/Saesneg yn ddigon da i allu deall a chymryd rhan yn y cwrs, gallwch chi ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi i fod yn gyfieithydd yn ddi-dâl. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni y byddwch chi'n dod â rhywun efo chi i gyfieithu.

Os ydych wedi rhoi gwybod i ni eich bod yn dod â chyfieithydd gyda chi, mae’n rhaid i’r unigolyn hwnnw/honno gael ei (h)enwi ar yr archeb. Mae’n rhaid iddo/iddi ddod ag ID llun a bod yn 16 oed neu’n hŷn.

Os byddwch chi'n cyrraedd y cwrs heb gyfieithydd a bydd yr hyfforddwr yn teimlo nad ydych yn gallu ei (d)deall ef/hi a chynnwys y cwrs yn ddigonol, yna ni fyddwch yn gallu cwblhau’r cwrs. Mae hyn oherwydd ei bod yn bwysig bod pob cyfranogwr yn gallu deall yr hyfforddwr a chynnwys y cwrs er mwyn ennill y wybodaeth a phrofiad arfaethedig o'r sesiwn.

A oes dolen clyw ar gael?

Mae gan rhai o'r lleoliadau cwrs ddolennau clyw, neu maent yn gallu darparu dolennau clyw, ond nid yw rhai ohonynt yn cynnig y cyfleuster hwnnw. Os oes angen dolen clyw arnoch, cysylltwch â ni a byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu ar gyfer yr angen hwn.

 

A fydd angen darllen neu ysgrifennu unrhyw beth?

Byddwch chi'n cael llawlyfr cwrs sydd â lle ynddo i wneud nodiadau ond mae hwn i'ch cofnodion yn unig, ni fydd yn cael ei roi i mewn ar ddiwedd y cwrs.