
Wedi’i drefnu gan Gomisiynydd y Gymraeg, mae Diwrnod Cynnig Cymraeg yn gyfle i ddathlu busnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau yn Gymraeg i’r cyhoedd.
Cafodd TTC wahoddiad i dderbyn ein tystysgrif Cynnig Cymraeg a hynny yn cydnabod ein hymrwymiadau parhaus i hyrwyddo’r Gymraeg drwy ein cytundebau diogelwch ffyrdd gyda Heddluoedd Gogledd Cymru, Gwent a De Cymru. Roedd Melfyn Jones, Rheolwr Rhanbarthol Cynorthwyol yn bresennol yn nigwyddiad Diwrnod Cynnig Cymraeg yn Ninbych i dderbyn y dystysgrif ar ran TTC.
Mae 86% o boblogaeth Cymru yn teimlo bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo
Dywedodd Sharon Haynes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleient:
“Mae TTC yn cydnabod ein cyfrifoldeb i hybu’r Gymraeg ac wedi datblygu cynllun cryf sy’n amlinellu sut rydym ni, fel busnes, yn ymgysylltu â’n cleientiaid yn y Gymraeg.
Mae 94% o siaradwyr Cymraeg yn teimlo bod darparu gwasanaeth Cymraeg yn help i gwmni wneud argraff dda, ac mae’n hynod bwysig i’r partneriaid Heddlu rydym yn ymdrin â nhw bod cleientiaid yn cael mynediad cyfartal i gyrsiau Cymraeg.
Byddem yn annog mwy o fusnesau sy’n cynnig gwasanaethau ledled Cymru i ymgysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chreu eu Cynllun Datblygu’r Gymraeg eu hunain.”

Mae TTC yn darparu cyrsiau Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru a Chynllun Adsefydlu Yfed a Gyrru i dros 60,000 o bobl ledled Cymru bob blwyddyn, gan weithio gyda'r Heddlu a'r Llysoedd Ynadon i helpu gwella diogelwch ar y ffyrdd.
Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn deunydd darllen am gyrsiau a chynnwys hyrwyddo i sicrhau y bydd unrhyw un sydd am ymdrin â TTC yn gallu gwneud hynny'n rhwydd yn yr iaith Gymraeg.
Mae'r fideo enghreifftiol hon yn fideo hyrwyddo animeiddiedig sy'n tynnu sylw at fuddion y Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol (NSAC). Rydym yn darparu tudalen y cwrs mewn fersiynau Saesneg a Chymraeg, gan gynnwys y fideo Cymraeg bwrpasol hon.
Os hoffech wybod mwy am y Cynnig Cymraeg cliciwch yma.