Gweithdrefn gwyno

Ein nod yw cynnig y siwrnai orau posibl i chi fel cwsmer, os teimlwch nad ydym wedi cyflawni hyn, rhowch wybod i ni. Dymunwn geisio datrys eich cwyn a byddwn yn gweithio â chi i ddatrys eich cwyn mor gyflym â phosibl.

Rydym yn trin pob cwyn yn ddifrifol, p’un a ydynt yn cael eu gwneud trwy lythyr, ffôn, e-bost, ar-lein neu drwy gyfryngau cymdeithasol.

Byddwch bob amser yn cael eich trin â chwrteisi a thegwch. Gofynnwn i chi hefyd fod yn gwrtais ac yn deg wrth i chi ddelio a chyfathrebu â’n staff wrth i ni weithio i ddatrys eich cwyn.

Byddwn yn trin eich cwyn yn gyfrinachol.
Caiff pob cwyn ei thrin yn unol â System Rheoli Ansawdd ISO: 9001 y Sefydliad Safonau Prydeinig.

Lawrlwytho’r weithdrefn gwyno

Sut i gwyno
Os oes gennych reswm i gwyno, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gŵynion gan ddarparu cymaint o fanylion â phosibl i helpu i ymchwilio i’ch cwyn.

Dylid dychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau fel atodiad e-bost i complaints@ttc-uk.com neu drwy bostio Rhadbost i:

Freepost RRAY-YEEE-XHZJ
Complaints
TTC Group
Hadley Park East
Telford
TF1 6QJ