Cynllun Dargyfeiriol Alcohol

Archebwch eich lle ar gwrs neu ei newid

Nod y Cynllun Dargyfeiriol Alcohol yw lleihau troseddau sy’n cael eu hysgogi gan alcohol a’r risg i unigolion a’r gymuned ehangach.

Mae troseddwyr yn cael rhybuddiad amodol, ar ôl cael eu harestio a’u cadw’n gaeth am un o’r troseddau canlynol:

  • Meddw ac Afreolus (Adran 91 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967, Cod DA06)
  • Meddw ar y Briffordd (Adran 12 Deddf Trwyddedu 1872, Cod DB05)
  • Adran 5 y Ddeddf Trefn Gyhoeddus yn Cynnwys Alcohol (Adran 5 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986, Cod (DA04)
  • Adran 4 y Ddeddf Trefn Gyhoeddus yn Cynnwys Alcohol (Adran 4 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986)
  • Meddw ac Analluog

Caiff ei gynnig fel dewis amgen i ddirwy, ac mae’r cynllun dan gyfeiriad yr heddlu yn ymdrin â nifer o bynciau sy’n ymwneud ag alcohol, gan gynnwys rheoli iechyd, canlyniadau a’r ffordd ymlaen i unigolion fynd i’r afael â’u problemau.

Mae’r cwrs hefyd yn galluogi cyfranogwyr i wneud penderfyniadau deallus ar arferion yfed yn y dyfodol a lleihau’r risg o aildroseddu.

  • Hyd: 2 awr
  • Hyd at 15 o gyfranogwyr
  • Pris yn dibynnu ar ardal heddlu
  • Gweithdy rhyngweithiol yn yr ystafell ddosbarth
  • Rydym yn darparu’r cynllun yng Nghumbria, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru

Rhesymau i fynychu

Nid oes angen i chi dalu’r ddirwy ac ni fydd yr heddlu’n cymryd unrhyw gamau pellach.

Mae lleoliadau lleol ar gael yng Nghumbria, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru.

Mae presenoldeb yn dwyn sylw at 'barodrwydd' i newid ymddygiad. Caiff hyn ei nodi ar eich cofnod fel rhan o wiriad cofnodion troseddol manylach.

 

Roedd eu cyflwyniad yn wych, â siarad clir ag anogaeth i ysgogi ymatebion gan y gynulleidfa. Roedd manylion y cynnwys yn adlewyrchu ehangder y profiadau a ddaethant i’r cwrs

Manteision i’r cyfranogwyr

AlcoholDeall effeithiau tymor hir yfed​.

thinkingAdnabod y risgiau posibl i’w hunain a phobl eraill mewn sefyllfaoedd sy’n cael eu hysgogi gan alcohol.

Understand unitMeithrin dealltwriaeth gynyddol o unedau alcohol.

Risks with alcoholGwybod sut i adnabod sefyllfaoedd o risg.

Manylion y cwrs

Pwy ddylai fynychu

Unrhyw un sydd wedi cael Hysbysiad Cosb am Anhrefn a chael cynnig y cynllun yn ôl disgresiwn yr heddlu.

Dull darparu

Mae’r gweithdy rhyngweithiol yn hamddenol ac yn llawn gwybodaeth a chaiff ei hwyluso gan hyfforddwr trwyddedig. Nid oes gan yr heddlu ran yn y broses.

 

Gofynion y cwrs

Cyrraedd yn gynnar
Mae’n rhaid i chi gyrraedd 15 munud yn gynnar i gofrestru. Ni chaniateir i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr ddod i mewn ac efallai y bydd eu hachosion yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r heddlu.

Dull adnabod dilys
Bydd angen i chi gyflwyno trwydded yrru ddilys pan fyddwch yn mynychu’r cwrs. Os nad oes gennych drwydded cerdyn-llun bydd gofyn i chi gyflwyno’ch trwydded papur (nid yr wrthran) ynghyd â 2 ffurf arall o ddull adnabod. Os nad oes gennych eich trwydded yrru ddilys, gallwch ddod â’ch pasbort neu 3 ffurf o ID heb ffotograff fel bil gwasanaeth diweddar (nwy a thrydan), cyfriflen banc a cherdyn debyd/credyd.

Dim prawf
Mae hwn yn gwrs theori yn unig, yn yr ystafell ddosbarth heb unrhyw brawf.

Telerau ac amodau
Dyma gipolwg sydyn o ofynion y cwrs. I gael mwy o fanylion, edrychwch ar ein telerau ac amodau.

Ffioedd a godir i newid archeb

Oes, ar yr amod bod digon o amser o fewn yr amserlen mae’r heddlu wedi’i rhoi i chi. Gallwch chi newid amser, dyddiad a lleoliad y cwrs unwaith y byddwch chi wedi archebu lle. Fodd bynnag, codir ffi am newid manylion eich archeb (gwelwch isod) a manylir ar hyn yn ein telerau ac amodau. Os dymunwch newid/canslo dyddiad ac amser eich cwrs cyn pen:

  • 14 diwrnod o'r dyddiad pan wnaethoch chi archebu’ch lle yn wreiddiol, gallwch newid am ddim/caiff ffi lawn y cwrs ei had-dalu os byddwch yn canslo.
  • O 15 diwrnod ar ôl y dyddiad pan wnaethoch chi archebu’ch lle ond 8 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs, ceir ffi ail-drefnu/canslo £10.
  • 7 diwrnod cyn eich cwrs, hyd at ac yn cynnwys dyddiad y cwrs, ceir ffi ail-drefnu/canslo £20.
  • Os na fyddwch yn mynychu eich cwrs a dymunwch drefnu lle ar un arall, bydd angen ffi ail-drefnu £20.

Os na fyddwch yn gallu mynychu neu gwblhau cwrs oherwydd salwch, bydd angen talu ffi ail-drefnu. Efallai y caiff hon ei had-dalu hyn ar ôl derbyn tystysgrif feddygol ac ar ôl adolygiad gennym ni.

Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych

Ydw i’n gallu mynychu’r cwrs heb ID dilys?

Os byddwch chi'n methu â chyrraedd â phrawf hunaniaeth dilys, ni fyddwch chi'n cael mynychu'r cwrs a chyn belled â bod gennych chi ddigon o amser cyn eich dyddiad cwblhau, bydd gofyn i chi ail-drefnu'r cwrs a fydd yn golygu ffi ail-drefnu.

Beth os byddaf yn hwyr neu’n methu â mynychu?

Efallai y bydd modd i chi ail-archebu lle, cyn belled â bod digon o amser yn yr amserlen gan yr heddlu, a fydd yn golygu ffi ad-drefnu.

Os byddwch yn sâl, bydd angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Bydd gofyn i chi ddarparu tystysgrif meddyg.

Ydw i'n gallu methu'r cwrs?

Os byddwch chi'n cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol, ni allwch chi fethu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi:

- Fynychu’r sesiwn lawn.

– Arddangos parodrwydd i gael ymagwedd fwy cadarnhaol tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd.

- Gwneud cyfraniad positif at y cwrs.

Os na fyddwch chi'n llwyddo i fodloni'r holl ofynion hyn, ystyrir na fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs mewn ffordd foddhaol a bydd eich achos yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r heddlu.

Ydw i’n gallu mynychu'r cwrs yn wirfoddol?

Nac ydych, byddwch chi'n gallu mynychu’r cwrs os byddwch chi wedi derbyn y cynnig oddi wrth yr heddlu yn dilyn trosedd traffig honedig yn unig.

Fodd bynnag, gallwn gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau hyfforddiant i yrwyr. Ewch i 'addysg a hyfforddiant gyrwyr' i gael mwy o wybodaeth.

Ydw i angen mewngofnodi?

Ar ôl cyrraedd, dylech ddod o hyd i’r hyfforddwr er mwyn cofrestru. Bydd yr hyfforddwr yn gwirio’ch hunaniaeth ac yn nodi’ch presenoldeb cyn i’r cwrs ddechrau.

Ai'r heddlu sy'n rhedeg y cwrs?

Nid yw'r heddlu'r gysylltiedig â darparu'r cwrs, byddant yn cael gwybodaeth unwaith y byddwch wedi mynychu a chwblhau'r cwrs i sicrhau na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd yn eich erbyn ar gyfer y digwyddiad hwn.

 

Beth os bydd y cwrs yn cael ei ganslo?

Os bydd eich cwrs yn cael ei ganslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i'n rheolaeth, byddwn ni'n ei ail-drefnu cyn gynted â phosibl, am ddim.

Byddwn yn anfon neges e-bost neu’n ysgrifennu at gleientiaid yn rhoi gwybod am yr ad-drefnu.

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud ar ôl y cwrs?

Dim byd. Unwaith y byddwch chi wedi mynychu a chwblhau'r cwrs bydd TTC yn diweddaru’r system i nodi eich bod mynychu a chwblhau'r cwrs. Byddant hefyd yn diweddaru cronfa ddata genedlaethol yr heddlu ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.


A fyddwch chi'n darparu bwyd?

Na fyddwn. Bydd yn rhaid i chi ddod â’ch cinio eich hun os dymunwch fwyta yn ystod yr egwyl.

 

Alla i wneud y cwrs mewn iaith arall?

Darperir cyrsiau yn Saesneg. Yng Ngwent, Gogledd a De Cymru, mae rhai cyrsiau ar gael yn Gymraeg hefyd. Os nad yw'ch dealltwriaeth o Gymraeg/Saesneg yn ddigon da i allu deall a chymryd rhan yn y cwrs, gallwch chi ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi i fod yn gyfieithydd yn ddi-dâl. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni y byddwch chi'n dod â rhywun efo chi i gyfieithu.

Os ydych wedi rhoi gwybod i ni eich bod yn dod â chyfieithydd gyda chi, mae’n rhaid i’r unigolyn hwnnw/honno gael ei (h)enwi ar yr archeb. Mae’n rhaid iddo/iddi ddod ag ID llun a bod yn 16 oed neu’n hŷn.

Os byddwch chi'n cyrraedd y cwrs heb gyfieithydd a bydd yr hyfforddwr yn teimlo nad ydych yn gallu ei (d)deall ef/hi a chynnwys y cwrs yn ddigonol, yna ni fyddwch yn gallu cwblhau’r cwrs. Mae hyn oherwydd ei bod yn bwysig bod pob cyfranogwr yn gallu deall yr hyfforddwr a chynnwys y cwrs er mwyn ennill y wybodaeth a phrofiad arfaethedig o'r sesiwn.

A oes dolen clyw ar gael?

Mae gan rhai o'r lleoliadau cwrs ddolennau clyw, neu maent yn gallu darparu dolennau clyw, ond nid yw rhai ohonynt yn cynnig y cyfleuster hwnnw. Os oes angen dolen clyw arnoch, cysylltwch â ni a byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu ar gyfer yr angen hwn.

 

A fydd angen darllen neu ysgrifennu unrhyw beth?

Byddwch chi'n cael llawlyfr cwrs sydd â lle ynddo i wneud nodiadau ond mae hwn i'ch cofnodion yn unig, ni fydd yn cael ei roi i mewn ar ddiwedd y cwrs.