Cynllun CARA

Codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig

Mae rhaglen CARA (Rhybudd Rhag Cam‐drin mewn Perthynas) yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, lleihau aildroseddu a sicrhau diogelwch dioddefwyr. 

Caiff y cynllun ei gynnig i droseddwyr cam-drin domestig fel cyfle, nid cosb, i fyfyrio ar eu dewisiadau a chanfod ffordd gadarnhaol ymlaen. 

Fel rhan o rybudd amodol y mae’r heddlu wedi’u gyhoeddi, mae troseddwyr yn cwblhau 2 weithdy CARA, sy’n defnyddio technegau addysgol a therapiwtig i ysgogi newid mewn ymddygiad. 

Darganfu astudiaeth gan Brifysgol Caergrawnt o droseddwyr tro cyntaf a fynychodd CARA fod y gweithdai yn lleihau cyfraddau aildroseddu gan draean. O’r rheiny a fynychodd y gweithdai, nododd 94 y cant fod newid yn eu hymagwedd tuag at eu partner, a dywedodd 91 y cant eu bod wedi helpu materion yn eu perthynas. 

Gweld yr ymchwil: Prosiect CARA

  • Hyd: 2 weithdy 5 awr, 4 wythnos ar wahân
  • Hyd at 12 o gyfranogwyr
  • Am ddim
  • Gweithdy rhyngweithiol yn yr ystafell ddosbarth
  • Darparwyd gan Ymddiriedolaeth Hampton mewn gwahanol ardaloedd ar draws y DU

Rhesymau i fynychu

lawLleihau aildroseddu trwy newid mewn ymagwedd tuag at eich partner.

Mae’r rhan fwyaf o fynychwyr yn ystyried bod y cwrs yn ddefnyddiol ac o werth personol.

Hwyluswyr cwrs cyfeillgar, anfeirniadol heb unrhyw bresenoldeb gan yr heddlu.

Caiff yr holl weithdai eu rhedeg mewn grwpiau un rhyw.

 

Mae cam-drin domestig yn drosedd niweidiol sy’n difetha bywydau, felly mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu’n gynnar. Mae hwn yn gynllun arloesol sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o’r wlad, ac rwy’n hyderus y bydd yn ein helpu i leihau aildroseddu ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yma yn Dorset.

Martyn Underhill Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dorset

Manteision i’r cyfranogwyr

Dysgu adnabod a rheoli ymddygiad.

thinkingDeall effeithiau cam-drin domestig.

Friendly handshakeDod o hyd i ffordd ymlaen a datblygu nodau tymor hwy.

Cael eich ysgogi i gredu yn eich gallu i newid.

Manylion y cwrs

Pwy ddylai fynychu

Unrhyw un sydd wedi cael rhybuddiad amodol am gam-drin domestig ac yn cael cynnig y cynllun yn ôl disgresiwn yr heddlu.

 

Dull darparu

Mae’r gweithdy rhyngweithiol yn hamddenol ac yn llawn gwybodaeth ac yn cael ei hwyluso gan 2 hyfforddwr profiadol, anfeirniadol o Ymddiriedolaeth Hampton. Nid oes gan yr heddlu ran yn y broses.

 

Gofynion y cwrs

Cyrraedd yn gynnar
Mae’n rhaid i chi gyrraedd yn brydlon. Ni chaniateir i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr ddod i mewn ac efallai y bydd eu hachosion yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r heddlu.

Cymhwysedd
Ni ddylech fod wedi derbyn euogfarn neu rybuddiad blaenorol am drais yn y 2 flynedd cyn y drosedd ddiweddaraf, bod ar fechnïaeth y llys/heddlu neu ar hyn o bryd yn bwrw dedfryd neu orchymyn yn y gymuned.

Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych

Beth yw CARA?

Ymyriad a ddyluniwyd i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig yw CARA.

 

Pam fod yn rhaid i mi fynychu?

Fel rhan o’ch rhybuddiad amodol mae gofyn i chi fynychu’r gweithdai CARA er mwyn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich amgylchiadau presennol.

 

Beth yw hyd y cwrs?

Bydd gofyn i chi gwblhau 2 weithdy, 4-5 wythnos ar wahân. Bydd pob gweithdy ar ddydd Sadwrn rhwng 10am a 3pm ac mae’n rhaid i chi fynychu’r ddau weithdy.

 

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn mynychu?

Nid yw’r cwrs yn ddewisol. Os na fyddwch yn mynychu, rydych yn torri amodau’ch rhybuddiad a byddwch yn cael eich cyfeirio’n ôl i’r heddlu ar gyfer gweithredu pellach. Os byddwch yn colli gweithdy, bydd yn rhaid i chi ailadrodd y ddwy set o weithdai eto. Os byddwch yn hwyr i weithdy, byddwch yn cael eich gwrthod.

 

Alla i fynychu efo fy mhartner?

Na allwch. Ni chaniateir i bartneriaid fynychu’r cwrs.

 

 phwy 'alla i gysylltu os bydd unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch â ni ar 0330 0945849 rhwng 8am a 6pm ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 4pm ddydd Sadwrn neu anfonwch neges e-bost i contactus@ttc-uk.com.