Cyfrifiannell gwaharddiad yfed a gyrru
Darganfyddwch bryd y gallwch chi ddechrau gyrru eto yn dilyn gwaharddiad a faint y gallwch chi leihau’r amser hwn trwy ddilyn y Cwrs Adsefydlu Yfed a Gyrru (DDRS) dan gyfeiriad llys.
Fel darparwr cyrsiau yfed a gyrru mwyaf y DU, mae gennym leoliadau lleol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Wedi’n penodi gan yr Adran Drafnidiaeth ac Adran y Seilwaith, rydym wedi llwyddo i ddarparu’r Cynllun Adsefydlu Yfed a Gyrru (DDRS) am dros 25 mlynedd.
Mae’r cynllun yn addysgu pobl am alcohol a’i effeithiau ac yn lleihau aildroseddu. Trwy gwblhau cwrs, gall y mynychwr leihau ei waharddiad gyrru gan hyd at 25%, er enghraifft, lleihau gwaharddiad gyrru 12 mis i lawr i 9 mis.
Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi troseddwyr i adnabod y problemau sy'n gysylltiedig ag yfed a gyrru, cymryd cyfrifoldeb personol am y rhain, a mynd i'r afael â'u hymddygiad mewn perthynas ag yfed a gyrru.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell gwaharddiad yfed a gyrru i gyfrifo eich gostyngiad.
Lleihau hyd eich gwaharddiad gan hyd at 25%.
Deall effaith bosibl yfed a gyrru ar eich hun ac ar bobl eraill.
Meddu ar ddealltwriaeth realistig o’ch defnydd o alcohol, yn gyffredinol, ac mewn perthynas â gyrru.
Deall effeithiau alcohol ar y corff a chael eich ysgogi i fyw bywyd iachach.
Cydnabod y gyfraith sy’n ymwneud ag yfed a gyrru a derbyn cyfrifoldeb am y gweithredoedd a arweiniodd at eich euogfarn.
I ddechrau es i ar y cwrs i leihau hyd fy ngwaharddiad, ond ar ôl cwblhau’r cwrs mae fy agwedd tuag at alcohol wedi newid er gwell.
Darganfyddwch bryd y gallwch chi ddechrau gyrru eto yn dilyn gwaharddiad a faint y gallwch chi leihau’r amser hwn trwy ddilyn y Cwrs Adsefydlu Yfed a Gyrru (DDRS) dan gyfeiriad llys.
Unrhyw un sydd wedi dewis yn y llys i fynychu cwrs yfed a gyrru.
Mae’r gweithdy rhyngweithiol yn hamddenol ac yn llawn gwybodaeth a chaiff ei hwyluso gan hyfforddwr trwyddedig. Nid oes gan y llys na’r heddlu ran yn y broses.
Cyrraedd yn gynnar
Mae’n rhaid i chi gyrraedd 15 munud yn gynnar i gofrestru ar bob un o’r 3 diwrnod. Gwrthodir mynediad i’r rheiny sy’n cyrraedd yn hwyr.
Dull adnabod dilys
Mae’n rhaid i chi ddod â dull adnabod â ffotograff, fel pasbort dilys, ar bob diwrnod o’r cwrs.
Os nad oes gennych ID ffotograffig dilys, bydd angen i chi ddod â 3 ffurf o ID heb ffotograff fel bil gwasanaeth diweddar (nwy a thrydan), cyfriflen banc a cherdyn debyd/credyd.
Dim prawf
Mae hwn yn gwrs theori yn unig, yn yr ystafell ddosbarth heb unrhyw brawf.
Telerau ac amodau
Dyma gipolwg sydyn o ofynion y cwrs. I gael mwy o fanylion, edrychwch ar ein telerau ac amodau.
Yn cynnig mwy o leoliadau nag unrhyw ddarparwr arall, gallwch ddewis o blith mwy na 220 lleoliad cwrs ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Ashton-under-Lyne
Birmingham
Boston
Burton
Chesterfield
Coalville
Coventry
Derby
Evesham
Grantham
Hanley
Heanor
Henffordd
Hinckley
Kettering
Kidderminster
Caerhirfryn
Leamington Spa
Caerlŷr
Lincoln
Loughborough
Louth
Llwydlo
Mansfield
Melton
Mowbray
Newark
Newcastle-under-Lyme
Northampton
Nottingham
Nuneaton
Croesoswallt
Redditch
Rugby
Amwythig
Spalding
Stafford
Stoke-on-Trent
Stourbridge
Stratford-upon-Avon
Tamworth
Telford
Walsall
Wellingborough
Yr Eglwys Wen
Wolverhampton
Caerwrangon
Worksop
Accrington
Altrincham
Ashton-under-Lyne
Barnsley
Barrow-in-Furness
Bebington
Bishop Auckland
Blackburn
Blackpool
Bolton
Bradford
Burnley
Burscough
Bury
Caerliwelydd
Caer
Chorley
Congleton
Crewe
Eccles
Ellesmere Port
Hartlepool
Kendal
Caerhirfryn
Leeds
Lerpwl
Macclesfield
Manceinion
Middlewich
Yr Heledd Ddu
Oldham
Penrith
Preston
Rawtenstall
Rochdale
Runcorn
Sheffield
Southport
St Helens
Stockport
Warrington
Wigan
Workington
Aldershot
Ashford
Aylesbury
Banbury
Barnstaple
Basildon
Basingstoke
Caerfaddon
Battersea
Blandford Forum
Bodmin
Bournemouth
Braintree
Bridgwater
Brighton
Bryste
Bromley
Bury St Edmunds
Caergrawnt
Caergaint
Chelmsford
Cheltenham
Chippenham
Cirencester
Caer Colun
Crawley
Croydon
Ealing
Enfield
Epsom
Caerwysg
Farnborough
Folkestone
Forest Gate
Caerloyw
Grays
Greenwich
Guildford
Harlow
Hastings
High Wycombe
Huntington
Ilford
Ipswich
Ynys Wyth
Kilburn Park Kings
Lynn
Liskeard
Lowestoft
Luton
Maidstone
Milton Keynes
Newbury
Norwich
Rhydychen
Paddington
Penzance
Peterborough
Plymouth
Poole
Portsmouth
Reading
Redruth
Romford
Caersallog
Southampton
Southend
St Albans
Staines
Stevenage
Street
Swindon
Taunton
Torquay
Truro
Tunbridge Wells
Uxbridge
Waterloo
Watford
Weston-super
Weymouth
Wimbledon
Caer-wynt
Yeovil
Aberdeen
Dumfries
Dundee
Dunfermline
Caeredin
Fort William
Galashiels
Glasgow
Greenock
Hamilton
Inverness
Kilmarnock
Kirkwall
Lerwick
Livingston
Perth
Bangor
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerdydd
Caergybi
Llanelli
Yr Wyddgrug
Y Drenewydd
Porthmadog
Y Rhyl
Abertawe
Wrecsam
Ballymena
Ballynahinch
Belfast
Coleraine
Dundonald
Dungannon
Enniskillen
Londonderry
Newry
Omagh
Portadown
Strabane
Gallwch chi gael eich cyfeirio i fynychu cwrs yn ystod eich ymddangosiad llys yn unig. Os na fyddwch chi'n cael eich cyfeirio yn ystod eich ymddangosiad llys, ni fyddwch chi'n gallu cael eich cyfeirio yn ddiweddarach.
Na allwch. Os na fyddwch chi'n dewis mynychu cwrs yn ystod eich ymddangosiad llys, ni fyddwch chi'n cael y cyfle i wneud cais yn ddiweddarach.
Gallwch wneud cwrs fel cyfeiriad gwirfoddol, ond ni fydd hyn yn rhoi'r hawl i chi gael eich trwydded wedi'i dychwelyd yn gynt, bydd yn rhoi addysg a sgiliau i chi i osgoi cael euogfarn eto.
Hefyd, os ydych chi wedi cael gwaharddiad am fwy na 2 flynedd, gallwch chi wneud cais i'r llysoedd ar ôl 2 flynedd i gael eich trwydded wedi'i hadfer yn gynnar. Bydd llysoedd yn ystyried unrhyw beth rydych wedi'i wneud i leihau'r tebygolrwydd o aildroseddu.
Cewch. Nid oes unrhyw rwystr cyfreithiol i droseddwr gael ei gyfeirio/chyfeirio i ail gwrs.
Gallwch drosglwyddo eich cyfeiriad ym Mhrydain Fawr yn unig, nid Gogledd Iwerddon.
Os byddwch yn symud ardal, gallwch drosglwyddo eich cyfeiriad trwy roi gwybod i’ch darparwr gwreiddiol. Fodd bynnag, sylwch fod gwahanol ddarparwyr yn codi gwahanol ffioedd am gyrsiau.
Fe’ch cynghorir i gwblhau’r cwrs cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac osgoi ei adael tan y funud olaf:
– efallai y bydd ymrwymiadau gwaith/teulu neu salwch yn eich atal rhag cwblhau’r 3 sesiwn.
– os nad oes gennym ddigon o gyfeiriadau efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo’r cwrs.
Gallwch archebu lle unwaith bydd y darparwr wedi derbyn eich cyfeiriad.
Fel arfer byddwn yn ail-archebu eich cwrs cyn belled â bod digon o amser cyn y dyddiad cwblhau cwrs gwnaeth y llys ei osod - bydd ffi'n cael ei chodi am hyn.
Os na fyddwch yn gallu mynychu neu gwblhau cwrs oherwydd salwch, bydd angen talu ffi ail-drefnu. Efallai y caiff hon ei had-dalu hyn ar ôl derbyn tystysgrif feddygol ac ar ôl adolygiad gennym ni. Hefyd efallai y bydd yn bosibl cynnig dyddiad arall oherwydd amgylchiadau eithriadol eraill (cyn belled â bod digon o amser o fewn y dedlein mae'r heddlu wedi'i roi). Dan amgylchiadau o'r fath, mae'n rhaid i chi gysylltu â'n swyddfa.
Gallwch, gallwch chi newid amser, dyddiad a lleoliad y cwrs unwaith y byddwch chi wedi archebu lle. Fodd bynnag, codir ffi am newid manylion eich archeb (gwelwch isod) a manylir ar hyn yn ein telerau ac amodau.
Os dymunwch newid/canslo dyddiad ac amser eich cwrs cyn pen:
- 14 diwrnod o'r dyddiad pan wnaethoch archebu’ch lle yn wreiddiol, am ddim/ad-dalu ffi lawn y cwrs
- O 15 diwrnod ar ôl y dyddiad pan wnaethoch chi archebu’ch lle ond mwy na 7 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs, ceir ffi ail-drefnu/canslo £30.
- Peidio â mynychu, heb rybudd ymlaen llaw, neu lai na 7 diwrnod cyn dyddiad cyntaf eich cwrs, ceir ffi ail-drefnu/canslo £75
- Mae'r aildrefnu uchod o ran cyrsiau yn destun i gael digon o amser ar gael cyn eich dyddiad cwblhau
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i redeg pob cwrs a drefnwyd, fodd bynnag os bydd y galw am gwrs yn isel iawn, caiff ei ganslo. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi o leiaf 5 diwrnod o rybudd o'r canslo. Yna byddwch yn cael cynnig dyddiadau eraill (os oes digon o amser ar gael i chi) cyn y dyddiad cwblhau, gwnaeth y llys ei osod ar adeg y dedfrydu.
Na allwch, fodd bynnag, yn achlysurol iawn efallai y bydd y dyddiad mae'r llys wedi'i osod yn anghywir, felly mae hi werth gofyn i ddarparwr y cwrs wirio'r dyddiadau a ddarparwyd ar y cyfeiriad eto. Sylwch fod y dyddiad bob amser yn cael ei osod gan y llys ac nid oes unrhyw ddarpariaeth mewn cyfraith i ymestyn hwnnw waeth beth fo'r rhesymau. Rydym bob amser yn eich argymell i ganiatáu digon o amser i gwblhau'r cwrs.
Mae pob darparwr yn gweithio dan ganllawiau caeth y mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wedi'u cyhoeddi a byddwch chi'n cael eich gwrthod a bydd gofyn i chi ail-archebu lle - cyn belled â bod amser - fel arfer codir ffi ychwanegol.
Mae’r cwrs yn orchymyn llys heb fod wedi’i rwymo yn y gyfraith. Os nad ydych yn cwblhau cwrs yna mae gofyn i ni roi hysbysiad dim cwblhau i chi, sy’n cau’r gorchymyn llys ac ar gyfer eich cofnodion. Os na fyddwch chi'n cwblhau'r cwrs yn llawn ni fyddwch chi'n cael budd gostyngiad yn y cyfnod o amser rydych chi'n cael eu gwahardd rhag gyrru.
Yn Lloegr, yr Alban a Chymru, fel arfer byddwn yn anfon y dystysgrif gwblhau wreiddiol i'r llys a roddodd eich dedfryd. Yna bydd y llys yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Byddwn hefyd yn darparu 2 gopi o’r dystysgrif i chi. Dylech chi gadw un copi at ddibenion yswiriant. Dylech anfon y llall at y DVLA â’ch ffurflen gais am drwydded yrru ar yr adeg briodol.
Yng Ngogledd Iwerddon, byddwn yn darparu tystysgrif gwblhau i chi ac mae’n rhaid i chi fynd â hi i’r llys lle cawsoch eich dedfrydu. Byddwn hefyd yn anfon copi o’r dystysgrif i’r llys. Yna bydd y llys yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA).
Er nad ydym yn gallu gwarantu y bydd hyn yn lleihau eich premiwm yswiriant, bellach mae llawer o gwmnïau yswiriant yn derbyn tystysgrif gwblhau fel arwydd eich bod bellach yn risg llawer is ac maent yn adnabod gwerth y cwrs wrth leihau cyfraddau ail-euogfarnau. Mae llawer o droseddwyr yn darganfod eu bod yn cael disgownt sylweddol.
Yn Lloegr, yr Alban a Chymru, os ydych chi'n Droseddwr Risg Uchel (HRO) yna gallwch chi wneud cais i DVLA 3 mis cyn yr adeg y gallwch chi gael eich trwydded yn ôl. Sylwch y byddwn yn anfon y dystysgrif gwblhau wreiddiol i'r llys.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud cais am eich trwydded ar ddiwedd cyfnod eich gwaharddiad. Er enghraifft, os gwnaethoch chi dderbyn gwaharddiad 12 mis, a ostyngwyd i 9 mis, gellir gwneud cais am drwydded yrru ar ôl 9 mis ac nid cyn hynny.
Yn Lloegr, yr Alban neu Gymru gallwch wneud cais 3 mis cyn y dyddiad gofynnol. Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl, sy'n golygu peidio â gadael eich cwrs tan y munud olaf.
Fodd bynnag, mae angen i chi fod yn ymwybodol, oherwydd newid diweddar i ddeddfwriaeth, ni allwch chi yrru nes bod eich prawf meddygol wedi cael ei gwblhau yn llawn. Mae hyn yn golygu eich bod wedi cael yr archwiliad meddygol, unrhyw brofion gwaed perthnasol, ac mae DVLA wedi derbyn a chymeradwyo'r adroddiad llawn, ac maent wedi cyhoeddi eich trwydded.
Os yw llys yng Ngogledd Iwerddon wedi’ch cyfeirio, ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus mae’n rhaid i chi gyflwyno cais am eich trwydded dros dro yn gyntaf oherwydd y bydd angen i chi ailsefyll y prawf gyrru. Dim ond ar ddiwedd y gwaharddiad y gellir gwneud hyn, felly, pe baech wedi cael gwaharddiad 12 mis, wedi’i leihau i 9 mis ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, dim ond ar ôl 9 mis y gallwch wneud cais. Bydd angen i chi hefyd lwyddo mewn archwiliad meddygol gan ddoctor y mae DVA Coleraine wedi’i benodi/phenodi (bydd gofyn i chi dalu am yr archwiliad meddygol hwn).
I gael rhagor o wybodaeth am y broses hon, ewch i www.nidirect.gov.uk/articles/driving-disqualifications
Ydych, mae hyn yn bwysig iawn. Pan fyddwch yn cyrraedd, dewch o hyd i’r rheolwr a llofnodwch gofrestr y cwrs.
Mae mwy na 220 o leoliadau cwrs ar gael ledled y wlad ac yn archebu ar-lein mewn 2 funud