Cynnig Cymraeg

Mae Cynnig Iaith Gymraeg TTC Group yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg ar draws ein cynhyrchion a'n gwasanaethau.

Jim Kirkwood CEO TTC Group

"Yn TTC, rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i'r Gymraeg a'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn Gymraeg.

Mae nifer o Heddluoedd wedi ymddiried ynom i gyflwyno cyrsiau NDORS i aelodau'r cyhoedd ac mae hyn yn cynnwys mewn rhai ardaloedd yng Nghymru lle rydym yn cydnabod y gofyniad statudol a ddaw yn sgil hyn. Mae darparu'r gwasanaethau hyn yn llwyddiannus yn bwysig iawn i ni.

Er ei fod yn gwmni o Loegr sydd wedi'i leoli ychydig dros y ffin yn Swydd Amwythig, mae'n parhau i fod yn rhan annatod o werthoedd craidd TTC ac o’n darpariaeth i gleientiaid ein bod yn gwasanaethu’n briodol y cymunedau lle rydym yn gweithredu ac ein bod yn gallu cyfathrebu a chynnig cyrsiau yn y Gymraeg, a hynny trwy ein panel o hyfforddwyr sy'n siarad Cymraeg a'n systemau cyfrifiadurol, gan roi i'n cleientiaid y cyfle sy’n iawn iddynt."

Jim Kirkwood
CEO, Grŵp TTC

TTC Group | Cymraeg Bilingual Course Booking

Mae ein gwasanaethau Allweddol yn Gymraeg yn cynnwys:

  • Mae TTC yn cynnig pob cwrs yn Gymraeg ar gyfer y Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru

  • Mae TTC yn recriwtio Hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith sy'n cyflwyno cyrsiau ar ei ran

  • Mae TTC yn cyfathrebu â chleientiaid yn Gymraeg pan fydd cleientiaid yn rhoi gwybod mai hon yw eu dewis iaith

  • Gall cleientiaid archebu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar y ffôn yn Gymraeg ac ar-lein yn Gymraeg

  • Mae gwefan TTC yn ddwyieithog yn yr ystyr y gall y cleient ddewis edrych ar y wefan yn Gymraeg neu yn Saesneg, trwy nodi eu dewis iaith ar y dudalen hafan

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn deunydd darllen am gyrsiau a chynnwys hyrwyddo i sicrhau y bydd unrhyw un sydd am ymdrin â TTC yn gallu gwneud hynny'n rhwydd yn yr iaith Gymraeg.

Mae'r fideo enghreifftiol hon yn fideo hyrwyddo animeiddiedig sy'n tynnu sylw at fuddion y Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol (NSAC). Rydym yn darparu tudalen y cwrs mewn fersiynau Saesneg a Chymraeg, gan gynnwys y fideo Cymraeg bwrpasol hon.

Mae UKROEd wedi cynhyrchu fideo newydd i helpu i annog gyrwyr sydd angen cwblhau cwrs ymwybyddiaeth cyflymder – neu gwrs newid ymddygiad arall – i wneud hynny gan ddefnyddio’r Gymraeg.